Senior Supervising Social Worker

Job Title: Senior Supervising Social Worker

Salary: £21,536 pa + £450 pa Homeworking Allowance + £1,500 pa Out of Hours Allowance

Hours & Contract: 21 Hours per week - Permanent Role

Location: Homebased -  ideally in or around Cardiff with travel required to visit foster families located from Cardiff to Monmouthshire.  Travel also requires the postholder to attend staff meetings and team away days.

As a ‘not for profit’ organisation, TACT puts the needs of our children and carers first and look to appoint individuals who are as passionate about fostering as we are. We are a homeworking organisation, and we pride ourselves on our flexible working opportunities, available from day one, an extensive wellbeing programme and our benefits package, all curated to nurture a healthy work life balance for all our employees so they can give an excellent service to our carers and the young people and children we care for.

As a foster care charity, TACT invests all surplus income into services, staff, carers, and child development. This means that we have been able to invest unique projects like TACT Connect, our unique and ground-breaking scheme for TACT care experienced young people and adults,  as well as our expanding TACT Education Service and our new Health Service. All our activities are built on our commitment to becoming a fully trauma informed organisation, in line with our key values and ethos.

TACT achieved 16th place in the UK Best Companies Work For survey results in 2023, with 91% of employees acknowledging that the organisation is run on strong values and principles and 94% stating they feel proud to work for this organisation.  

As a Fostering Senior Supervising Social Worker with TACT Cymru, you will be a part of our amazing team of professionals working with our organisational values at the heart of their everyday practice.

This is an exciting opportunity to join the TACT Cymru team.

Click on this link for more information if you want to be valued as a professional, be appreciated at work and contribute to better outcomes for the children and young people connected with TACT.

APPLY NOW  

Overall Duties of the Senior Supervising Social Worker will include:

  • An appropriate social work qualification
  • Up-to-date registration with Social Care Wales
  • A minimum of 2 years post-qualifying experience in fostering/family placements or other childcare settings
  • Experience in supporting and supervising 10-12 foster families to meet the complex needs of the looked-after young people
  • A proven track record in working with and on behalf of children, respecting and maintaining their individuality, and promoting their positive development.
  • Experience in group work and/or delivery of training.
  • Up-to-date knowledge of relevant legislation including the Fostering Services (Wales) regulations.
  • Experience of working with/supporting looked after children and their foster carers.
  • Ability to prioritise, plan and self-organise efficiently.
  • Capable of using electronic records systems and IT effectively, including participating in virtual meetings and webinars

TACT offer an excellent employee benefits package including:

  • 31 days paid holiday plus annual bank holidays.
  • Flexible working arrangements (including compressed hours, flexibility around core hours, volunteer days policy).
  • Family friendly policies.
  • Homeworking ‘bundle’ including annual allowance, IT equipment and a loan for home office set up.
  • Help@Hand Employee Assistance Programme (including CBT counselling, 24/7 remote GP appointments, physiotherapy, mental health support and second opinions on serious diagnosis).
  • An hour a week of live, expert led activities through the Annual Employee wellbeing Programme.
  • Menopause Policy and free Menopause Clinician Appointments.
  • Stakeholder Pension Scheme (salary sacrifice).
  • Fantastic learning and development opportunities for all roles.

An Enhanced DBS clearance is required for this role and will be processed by TACT on your behalf.

Proficiency in the Welsh language is desirable though not essential.    

Please see the Job Information Pack, Job Description and TACT website at tactcare.org.uk for more detailed information.

Closing Date: Midnight - Sunday 28th April 2024

Interview Date: Wednesday 8th May 2024 (via Microsoft Teams)

Safeguarding is everyone’s business and TACT believes that only the people with the right skills and values should work in social work.  As part of TACT’s commitment to safeguarding, we properly examine the skills, experience, qualifications, and values of potential staff in relation to our work with vulnerable young children.  We use rigorous and consistent recruitment approaches to help safeguard TACT’s young people.  All our staff are expected to work in line with TACT’s safeguarding policies.

We reserve the right to close a vacancy earlier than advertised if the volume of applications is excessive, you are therefore advised to apply at your earliest convenience.

TACT does not accept unsolicited CVs from external recruitment agencies, nor the fees associated with them.

Teitl y Swydd: Uwch Weithiwr Cymdeithasol sy’n Goruchwylio

Cyflog: £21,536 y flwyddyn, £450 Lwfans Gweithio Gartref y flwyddyn a £1,500 Lwfans Tu Allan i Oriau y flwyddyn

Oriau a Chontract: 21 awr yr wythnos - Swydd Barhaol

Lleoliad: Gweithio gartref – yng Nghaerdydd neu o gwmpas Caerdydd yn ddelfrydol, ac mae angen teithio i ymweld â theuluoedd maeth yng Nghaerdydd, ac yn yr ardal gyfagos hyd at Sir Fynwy.  Hefyd mae gofyn i ddeiliad y swydd fynychu cyfarfodydd staff a diwrnodau cwrdd i ffwrdd tîm.

Fel sefydliad ‘di-elw’, mae TACT yn rhoi anghenion ein plant a’n gofalwyr yn gyntaf ac yn ceisio penodi unigolion sydd yr un mor frwd dros faethu â ni. Rydym yn sefydliad gweithio gartref, ac rydym yn ymfalchïo yn ein cyfleoedd gweithio hyblyg, sydd ar gael o’r diwrnod cyntaf, rhaglen llesiant helaeth a’n pecyn buddion, i gyd wedi’u curadu i feithrin cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith i’n holl weithwyr er mwyn iddyn nhw allu rhoi gwasanaeth rhagorol i’n gofalwyr a’r bobl ifanc a’r plant rydym yn gofalu amdanyn nhw.

Fel elusen gofal maeth, mae TACT yn buddsoddi’r holl incwm sydd dros ben mewn gwasanaethau, staff, gofalwyr a datblygiad plant. Mae hyn yn golygu ein bod wedi gallu buddsoddi mewn prosiectau unigryw fel TACT Connect, ein cynllun unigryw ac arloesol ar gyfer pobl ifanc ac oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal, yn ogystal â’n Gwasanaeth Addysg sy’n ehangu, a’n Gwasanaeth Iechyd newydd. Mae ein holl weithgareddau’n seiliedig ar ein hymrwymiad i fod yn sefydliad sy’n deall trawma yn llawn, yn unol â’n gwerthoedd a’n hethos allweddol.

Cyrhaeddodd TACT safle rhif 16 mewn arolwg ar y cwmnïau gorau i weithio iddynt yn y DU yn 2023. Roedd 91% o’r gweithwyr yn cydnabod bod gan y sefydliad werthoedd ac egwyddorion cryf ac roedd 94% yn dweud eu bod yn falch o weithio i’r sefydliad hwn.  

Fel Uwch Weithiwr Cymdeithasol sy’n Goruchwylio ym maes Maethu gyda TACT Cymru, byddwch yn rhan o’n tîm anhygoel o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda gwerthoedd ein sefydliad wrth galon eu hymarfer bob dydd.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm TACT Cymru.

Cliciwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth os ydych chi eisiau cael eich gwerthfawrogi fel gweithiwr proffesiynol, cael eich gwerthfawrogi yn y gwaith a chyfrannu at ganlyniadau gwell i’r plant a’r bobl ifanc sy’n gysylltiedig â TACT.

GWNEUD CAIS NAWR  

Dyma ddyletswyddau cyffredinol yr Uwch Weithiwr Cymdeithasol sy’n Goruchwylio:

  • Cymhwyster priodol ym maes gwaith cymdeithasol
  • Cofrestriad cyfredol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
  • O leiaf 2 flynedd o brofiad ôl-gymhwysol mewn lleoliadau maethu/teulu neu leoliadau gofal plant eraill
  • Profiad o gefnogi a goruchwylio 10-12 o deuluoedd maeth i ddiwallu anghenion cymhleth y bobl ifanc sy’n derbyn gofal
  • Llwyddiant blaenorol o weithio gyda phlant ac ar eu rhan, gan barchu a chynnal eu hunaniaeth, a hyrwyddo eu datblygiad cadarnhaol.
  • Profiad o waith grŵp a/neu ddarparu hyfforddiant.
  • Gwybodaeth gyfredol am ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru).
  • Profiad o gefnogi/gweithio gyda phlant sy’n derbyn gofal a’u gofalwyr maeth.
  • Gallu blaenoriaethu, cynllunio a threfnu eich hun yn effeithlon.
  • Gallu defnyddio systemau cofnodion electronig a TG yn effeithiol, gan gynnwys cymryd rhan mewn rhith-gyfarfodydd a gweminarau

Mae TACT yn cynnig pecyn buddion gwych i weithwyr, gan gynnwys:

  • 31 diwrnod o wyliau â thâl yn ogystal â gwyliau banc.
  • Trefniadau gweithio hyblyg (gan gynnwys oriau cywasgedig, hyblygrwydd o ran oriau craidd, polisi diwrnodau gwirfoddoli).
  • Polisïau ystyriol o deuluoedd.
  • ‘Bwndel’ gweithio gartref, gan gynnwys lwfans blynyddol, offer TG a benthyciad ar gyfer sefydlu swyddfa gartref.
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr Help@Hand (gan gynnwys cwnsela Therapi Gwybyddol Ymddygiadol, apwyntiadau o bell â Meddygon Teulu, ffisiotherapi, cymorth iechyd meddwl ac ail farn ar ddiagnosis difrifol).
  • Awr yr wythnos o weithgareddau byw dan arweiniad arbenigwyr drwy’r Rhaglen Flynyddol ar Lesiant Staff.
  • Polisi Menopos ac Apwyntiadau Clinigydd Menopos am ddim.
  • Cynllun Pensiwn Rhanddeiliaid (aberthu cyflog).
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu gwych ar gyfer pob swydd.

Mae angen archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon, a bydd yn cael ei brosesu gan TACT ar eich rhan.

Mae rhuglder yn y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.    

Edrychwch ar y Pecyn Gwybodaeth am y Swydd, y Disgrifiad Swydd a gwefan TACT yn tactcare.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Dyddiad Cau: Hanner nos - nos Sul 28 Ebrill 2024

Dyddiad y Cyfweliad: Dydd Mercher 8 Mai 2024 (drwy Microsoft Teams)

Mae diogelu yn fusnes i bawb ac mae TACT yn credu mai dim ond y bobl sydd â’r sgiliau a’r gwerthoedd iawn ddylai weithio ym maes gwaith cymdeithasol.  Fel rhan o ymrwymiad TACT i ddiogelu, rydym yn archwilio sgiliau, profiad, cymwysterau a gwerthoedd darpar staff mewn perthynas â’n gwaith gyda phlant ifanc agored i niwed.  Rydym yn defnyddio dulliau recriwtio trwyadl a chyson i helpu i ddiogelu pobl ifanc TACT.  Disgwylir i’n holl staff weithio yn unol â pholisïau diogelu TACT.

Rydym yn cadw’r hawl i gau hysbyseb swydd yn gynharach na’r hyn a hysbysebwyd os yw nifer y ceisiadau’n ormodol, felly fe’ch cynghorir i wneud cais cyn gynted ag y bo modd.

Nid yw TACT yn derbyn dogfennau CV digymell gan asiantaethau recriwtio allanol nac yn derbyn y ffioedd sy’n gysylltiedig â nhw.