Senior Supervising Social Worker

Salary - £35,893 - £39,880 p.a + £750 Homeworking Allowance p.a + £1,500 OOH Allowance p.a.

Hours - 35 Hours per Week

Contract – Fixed term 12 months initially

Location – Home-based with travel required to visit foster families located across the North Wales areas;  including Flintshire, Wrexham, Denbighshire, Conwy, Gwynedd and Anglesey. Travel also requires the postholder to attend staff meetings and team away days.

As a ‘not for profit’ organisation, TACT puts the needs of our children and carers first and looks to appoint individuals who are as passionate about fostering as we are. TACT invests all surplus income into staff, carers, and child development. This means that we have established expert in-house support services such as our TACT Health and Education Services and created TACT Connect, our ground-breaking scheme for care-experienced young people and adults.  New staff will join us as we embark on a journey to become a wholly trauma-informed organisation with the aim of increasing our effectiveness and improving outcomes for the children and young people in our care.

We pride ourselves on our flexible working opportunities, an extensive well-being programme, and our benefits package, all curated to support a healthy work-life balance for all our staff. We will also invest in your learning, supporting your growth and development during your employment with TACT.  You will be encouraged to attend personal and professional development opportunities and will have access to learning and resources to empower you to advance your knowledge and skills.

We are currently the 4th Best Charity to work for and the 16th Best Mid-Sized Company in the UK according to The Best Companies criteria and our survey results have evidenced “outstanding” levels of engagement amongst staff in recent years. You can view our Best Companies summary video here.

As a Fostering Senior Supervising Social Worker with TACT Cymru, you will be a part of our amazing team of professionals working with our organisational values at the heart of their everyday practice.

In addition to the annual salary, the Senior Supervising Social Worker role attracts Out of Hours Allowance of £1,500 per annum once participating in the rota. 

The main role requirements for this role include:

  • An appropriate social work qualification
  • Up-to-date registration with Social Care Wales
  • A minimum of 2 years post-qualifying experience in fostering/family placements or other childcare settings
  • Experience in supporting and supervising 10-12 foster families to meet the complex needs of the looked-after young people
  • A proven track record in working with and on behalf of children, respecting and maintaining their individuality, and promoting their positive development.
  • Experience in group work and/or delivery of training.
  • Up-to-date knowledge of relevant legislation including the Fostering Services (Wales) regulations.
  • Experience of working with/supporting looked after children and their foster carers.
  • Ability to prioritise, plan and self-organise efficiently.
  • Capable of using electronic records systems and IT effectively, including participating in virtual meetings and webinars

TACT offers an excellent employee benefits package including:

  • 31 days paid holiday plus bank holidays.
  • Flexible working arrangements (including compressed hours, flexibility around core hours, and volunteer days policy).
  • Family-friendly policies.
  • Homeworking ‘bundle’ including annual allowance of £750, IT equipment, and a loan for home office set up.
  • Stakeholder pension scheme (salary sacrifice) and life insurance from day one.
  • Employee Assistance Programme (including free CBT counselling, remote GP appointments, physiotherapy, mental health support, and second opinions).
  • Fantastic learning and development opportunities.

An Enhanced DBS clearance is also required and will be processed by TACT on your behalf.

Proficiency in the Welsh language is desirable though not essential.    

Please see the Job Information Pack and Job Description for further information.

Closing Date:     Sunday 31st March 2024

Interview Date:    Wednesday 10th April 2024 (via Microsoft Teams)

Safeguarding is everyone’s business and TACT believes that only the people with the right skills and values should work in social work.  As part of TACT’s commitment to safeguarding, we properly examine the skills, experience, qualifications and values of potential staff in relation to our work with vulnerable young children.  We use rigorous and consistent recruitment approaches to help safeguard TACT’s young people.  All our staff are expected to work in line with TACT’s safeguarding policies.

TACT does not accept unsolicited CVs from external recruitment agencies nor accept the fees associated with them.

TACT reserves the right to close the vacancy once we have received sufficient applications, so we advise you to submit your application as early as possible to prevent disappointment.

 

Uwch Weithiwr Cymdeithasol sy’n Goruchwylio

Cyflog - £35,893 - £39,880 y flwyddyn a £750 Lwfans Gweithio o Gartref y flwyddyn, a £1,500 Lwfans y Tu Allan i Oriau y flwyddyn.

Oriau - 35 awr yr wythnos

Contract – Cyfnod penodol o 12 mis i ddechrau

Lleoliad – Gweithio gartref a theithio i ymweld â theuluoedd maeth ar draws gogledd Cymru; gan gynnwys Sir y Fflint, Wrecsam, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn. Hefyd mae gofyn i ddeiliad y swydd fynychu cyfarfodydd staff a diwrnodau cwrdd i ffwrdd tîm.

Fel sefydliad ‘di-elw’, mae TACT yn rhoi anghenion ein plant a’n gofalwyr yn gyntaf ac yn ceisio penodi unigolion sydd yr un mor frwd dros faethu â ni. Mae TACT yn buddsoddi’r holl incwm dros ben mewn staff, gofalwyr a datblygiad plant. Mae hyn yn golygu ein bod wedi sefydlu gwasanaethau cymorth mewnol arbenigol fel ein Gwasanaethau Iechyd ac Addysg TACT ac wedi creu TACT Connect, ein cynllun arloesol ar gyfer pobl ifanc ac oedolion sydd â phrofiad o ofal.  Bydd staff newydd yn ymuno â ni wrth i ni gychwyn ar daith i ddod yn sefydliad sy’n gwbl ystyriol o drawma, gyda’r nod o gynyddu ein heffeithiolrwydd a gwella canlyniadau i’r plant a’r bobl ifanc yn ein gofal.

Rydym yn ymfalchïo yn ein cyfleoedd i weithio’n hyblyg, rhaglen llesiant helaeth, a’n pecyn buddion, i gyd wedi’u curadu i gefnogi cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith i’n holl staff. Byddwn hefyd yn buddsoddi yn eich dysgu, gan gefnogi eich twf a’ch datblygiad wrth i chi gael eich cyflogi gan TACT.  Byddwch yn cael eich annog i fynychu cyfleoedd datblygiad personol a phroffesiynol, a bydd gennych fynediad at ddysgu ac adnoddau i’ch galluogi i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau.

Ar hyn o bryd, ni yw’r 4edd Elusen Orau i weithio iddi a’r 16eg Cwmni Gorau Maint Canol yn y DU yn ôl meini prawf y Cwmnïau Gorau, ac mae canlyniadau ein harolwg wedi dangos lefelau ymgysylltu “rhagorol” ymysg staff dros y blynyddoedd diwethaf. Gallwch weld ein fideo cryno Cwmnïau Gorau yma.

Fel Uwch Weithiwr Cymdeithasol sy’n Goruchwylio ym maes Maethu gyda TACT Cymru, byddwch yn rhan o’n tîm anhygoel o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda gwerthoedd ein sefydliad wrth galon eu hymarfer bob dydd. Gallwch adolygu ein gwerthoedd yma.

Yn ogystal â’r cyflog blynyddol, mae rôl yr Uwch Weithiwr Cymdeithasol sy’n Goruchwylio yn denu Lwfans y Tu Allan i Oriau o £1,500 y flwyddyn unwaith y byddwch chi’n cymryd rhan yn y rota. 

Mae prif ofynion y rôl hon yn cynnwys:

  • Cymhwyster priodol ym maes gwaith cymdeithasol
  • Cofrestriad cyfredol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
  • O leiaf 2 flynedd o brofiad ôl-gymhwysol mewn lleoliadau maethu/teulu neu leoliadau gofal plant eraill
  • Profiad o gefnogi a goruchwylio 10-12 o deuluoedd maeth i ddiwallu anghenion cymhleth y bobl ifanc sy’n derbyn gofal
  • Llwyddiant blaenorol o weithio gyda phlant ac ar eu rhan, gan barchu a chynnal eu hunaniaeth, a hyrwyddo eu datblygiad cadarnhaol.
  • Profiad o waith grŵp a/neu ddarparu hyfforddiant.
  • Gwybodaeth gyfredol am ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru).
  • Profiad o gefnogi/gweithio gyda phlant sy’n derbyn gofal a’u gofalwyr maeth.
  • Gallu blaenoriaethu, cynllunio a threfnu eich hun yn effeithlon.
  • Gallu defnyddio systemau cofnodion electronig a TG yn effeithiol, gan gynnwys cymryd rhan mewn rhith-gyfarfodydd a gweminarau.

Mae TACT yn cynnig pecyn buddion gwych i weithwyr, gan gynnwys:

  • 31 diwrnod o wyliau â thâl yn ogystal â gwyliau banc.
  • Trefniadau gweithio hyblyg (gan gynnwys oriau cywasgedig, hyblygrwydd o ran oriau craidd, polisi diwrnodau gwirfoddoli).
  • Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd.
  • ‘Bwndel’ gweithio gartref, gan gynnwys lwfans blynyddol o £750, offer TG a benthyciad ar gyfer sefydlu swyddfa gartref.
  • Cynllun pensiwn cyfranddeiliaid (aberthu cyflog) ac yswiriant bywyd o’r diwrnod cyntaf.
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr (gan gynnwys cwnsela Therapi Gwybyddol Ymddygiadol am ddim, apwyntiadau Meddygon Teulu o bell, ffisiotherapi, cymorth iechyd meddwl, ac ail farn).
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu gwych.

Mae angen archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd a bydd yn cael ei brosesu gan TACT ar eich rhan.

Mae rhuglder yn y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.   

Gweler y Pecyn Gwybodaeth am y Swydd a Disgrifiad o’r Swydd i gael rhagor o fanylion.

Dyddiad Cau:          Dydd Sul 31 Mawrth 2024

Dyddiad y Cyfweliad:        Dydd Mercher 10 Ebrill 2024 (drwy Microsoft Teams)

Mae diogelu yn fusnes i bawb ac mae TACT yn credu mai dim ond y bobl sydd â’r sgiliau a’r gwerthoedd iawn ddylai weithio ym maes gwaith cymdeithasol.  Fel rhan o ymrwymiad TACT i ddiogelu, rydym yn archwilio sgiliau, profiad, cymwysterau a gwerthoedd darpar staff mewn perthynas â’n gwaith gyda phlant ifanc agored i niwed.  Rydym yn defnyddio dulliau recriwtio trwyadl a chyson i helpu i ddiogelu pobl ifanc TACT.  Disgwylir i’n holl staff weithio yn unol â pholisïau diogelu TACT.

Nid yw TACT yn derbyn dogfennau CV digymell gan asiantaethau recriwtio allanol nac yn derbyn y ffioedd sy’n gysylltiedig â nhw.

Mae TACT yn cadw’r hawl i newid dyddiad cau’r swydd ar ôl i ni gael digon o geisiadau, felly rydym yn eich cynghori i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi cael eich siomi.