Deputy Area Manager

TACT Cymru seek an experienced and innovative individual to join the team in the role of Deputy Area Manager, based in South Wales. 

This is an exciting developmental opportunity for an experienced senior supervising social worker to progress up to the Deputy Area Manager role or for an existing senior practitioner or Manager to join an experienced team of Supervising Social workers and support staff.

The Deputy Area Manager will assist and support the Fostering Service Manager in the operational management of the Area Team with the delivery and development of the service to support a diverse range of foster carers and placements alongside a 50% caseload (averaging six carers).

As a foster care charity, TACT invests all surplus income into services, staff, carers, and child development. This means that we have been able to invest unique projects like TACT Connect, our ground-breaking scheme for care experienced young people and young adults, our expanding TACT Education Service and our newly established Health Service. Our core aim is always to ensure the best outcomes for the children and young people placed in our care.

In October 2021 the Times 100 Best Companies Survey evidenced “outstanding” levels of engagement amongst our staff and that we are currently listed as amongst the UK’s Best Mid-Sized Companies across all industries and amongst the Best Charity to work for in 2022. Come and join us and be part of our amazing team of professionals whose vision is to provide better lives for our children and young people. Find out more about our values here: https://www.tactcare.org.uk/about-us/

The ideal Deputy Area Manager will have experience of working with children and young people in a statutory or third sector setting and have a management qualification (or willingness to undertake one). Registration with Social Care Wales is essential as is a Social Work Degree, DipSW, CSS or CQSW qualification.  An enhanced DBS Check will be carried out on your behalf by TACT.

The Deputy Area Manager role will be homebased but undertake travel for face-to-face carer visits, associated meetings, training, and TACT Cymru Team events.  The managerial responsibilities will be for the whole of Wales but the postholders caseload will cover geographically from Llanelli in the south west to Monmouth in the south east and up to mid Wales towards Llandeilo/Brecon.

We are keen to develop our Active Offer so Applications from Welsh speakers would be particularly welcome.

TACT offer an excellent employee benefits package including:

  • 31 days paid holiday plus bank holidays.
  • Flexible working arrangements (including compressed hours, flexibility around core hours, volunteer days policy).
  • Family friendly policies.
  • Homeworking ‘bundle’ including annual allowance of £750, IT equipment and a loan for home office set up.
  • Stakeholder pension scheme (salary sacrifice) and life insurance from day one.
  • Employee Assistance Programme (including free CBT counselling, remote GP appointments, physiotherapy, mental health support and second opinions).
  • Fantastic learning and development opportunities.

Please see the Job Information Pack and Job Description / Person Specification for full details.

Closing: 21st August 2022
Interviews: 7th September 2022

Safeguarding is everyone’s business and TACT believe that only the people with the right skills and values should work in social care.  As part of TACT’s commitment to safeguarding, we properly examine the skills, experience, qualifications, and values of potential staff in relation to our work with vulnerable young children.  We use rigorous and consistent recruitment approaches to help safeguard TACT’s young people.  All our staff are expected to work in line with TACT’s safeguarding policies.

TACT does not accept unsolicited CVs from external recruitment agencies nor accept the fees associated with them.

 

TACT Cymru yn chwilio am unigolyn profiadol ac arloesol i ymuno â’r tîm fel Dirprwy Reolwr Ardal, yn Ne Cymru. 

Mae hwn yn gyfle datblygu cyffrous i uwch weithiwr cymdeithasol goruchwylio profiadol gael ei ddyrchafu i rôl Dirprwy Reolwr Ardal, neu i uwch ymarferydd neu Reolwr presennol ymuno â thîm profiadol o weithwyr cymdeithasol goruchwylio a staff cefnogi.

Bydd y Dirprwy Reolwr Ardal yn cynorthwyo ac yn cefnogi’r Rheolwr Gwasanaethau Maethu yn y gwaith o reoli’r Tîm Ardal drwy ddarparu a datblygu’r gwasanaeth i gefnogi amrywiaeth eang o ofalwyr maeth a lleoliadau ochr yn ochr â baich achosion o 50% (tua chwech o ofalwyr). 

Fel elusen gofal maeth, mae TACT yn buddsoddi’r holl incwm sydd dros ben mewn gwasanaethau, staff, gofalwyr a datblygiad plant. Mae hyn yn golygu ein bod wedi gallu buddsoddi mewn prosiectau unigryw fel TACT Connect, ein cynllun arloesol ar gyfer pobl ifanc ac oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal, ein Gwasanaeth Addysg sy’n ehangu, yn ogystal â’n Gwasanaeth Iechyd sydd newydd ei sefydlu. Ein prif nod bob amser yw sicrhau’r canlyniadau gorau i’r plant a’r bobl ifanc yn ein gofal.

Ym mis Hydref 2021, tynnodd arolwg 100 Cwmnïau Gorau y Times sylw at y lefelau ymgysylltu “eithriadol” sy’n bodoli ymysg ein staff, yn ogystal â’r ffaith ein bod ni wedi’n rhestru fel un o’r Cwmnïau Canolig Gorau ar draws pob diwydiant yn y DU ac yn un o’r Elusennau Gorau i weithio iddi yn 2022. Ymunwch â ni, a bod yn rhan o’n tîm anhygoel o weithwyr proffesiynol sydd â’r weledigaeth o ddarparu bywydau gwell i’n plant a’n pobl ifanc. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwerthoedd ar gael yma: https://www.tactcare.org.uk/about-us/

Bydd gan y Dirprwy Reolwr Ardal delfrydol brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc mewn lleoliad statudol neu drydydd sector a bydd ganddo gymhwyster ym maes rheoli (neu barodrwydd i ymgymryd â chymhwyster o'r fath). Mae’n hanfodol eich bod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ogystal â meddu ar radd mewn Gwaith Cymdeithasol, DipSW, CSS neu CQSW. Bydd archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael ei gynnal ar eich rhan gan TACT.

Bydd y Dirprwy Reolwr Ardal yn gweithio gartref ond bydd yn teithio ar gyfer ymweliadau wyneb yn wyneb â gofalwyr, cyfarfodydd cysylltiedig, hyfforddiant a digwyddiadau Tîm TACT Cymru. Bydd y cyfrifoldebau rheoli yn cwmpasu Cymru gyfan ond bydd baich achosion deilydd y swydd yn ymestyn yn ddaearyddol o Lanelli yn y de orllewin i Drefynwy yn y de ddwyrain a hyd at ganolbarth Cymru tuag at Llandeilo/Bannau Brycheiniog.

Rydym yn awyddus i ddatblygu ein Cynnig Rhagweithiol felly byddem yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg yn arbennig.

Mae TACT yn cynnig pecyn buddion gwych i weithwyr, gan gynnwys:

  • 31 diwrnod o wyliau â thâl (yn ogystal â gwyliau banc).
  • Trefniadau gweithio hyblyg (gan gynnwys oriau cywasgedig, hyblygrwydd o ran oriau craidd, polisi diwrnodau gwirfoddoli).
  • Polisïau ystyriol o deuluoedd.
  • ‘Bwndel’ gweithio gartref, gan gynnwys lwfans blynyddol o £750, offer TG a benthyciad ar gyfer sefydlu swyddfa gartref.
  • Cynllun pensiwn cyfranddeiliaid (ildio cyflog) ac yswiriant bywyd o’r diwrnod cyntaf.
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr (gan gynnwys cwnsela Therapi Ymddygiad Gwybyddol am ddim, apwyntiadau Meddygon Teulu o bell, ffisiotherapi, cymorth iechyd meddwl ac ail farn).
  • Cyfleoedd dysgu a datblygu gwych.

Gweler y Pecyn Gwybodaeth am y Swydd a Disgrifiad Swydd / Manyleb y Person i gael y manylion llawn.

Dyddiad Cau: 21 Awst 2022
Cyfweliadau:  7 Medi 2022

Mae diogelu yn fusnes i bawb ac mae TACT yn credu mai dim ond y bobl sydd â’r sgiliau a’r gwerthoedd iawn ddylai weithio ym maes gofal cymdeithasol. Fel rhan o ymrwymiad TACT i ddiogelu, rydym yn archwilio sgiliau, profiad, cymwysterau a gwerthoedd darpar staff mewn perthynas â’n gwaith gyda phlant ifanc agored i niwed.  Rydym yn defnyddio dulliau recriwtio trwyadl a chyson i helpu i ddiogelu pobl ifanc TACT.  Disgwylir i’n holl staff weithio yn unol â pholisïau diogelu TACT.

Nid yw TACT yn derbyn CVs digymell gan asiantaethau recriwtio allanol nac yn derbyn y ffioedd sy’n gysylltiedig â nhw.